Diben yr ymgynghoriad
Mae'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn cynnal ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru). Mae rhagor o fanylion am y Bil a’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig ar gael ar dudalen y Bil.
Cylch gorchwyl
Ystyried—
1. egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) i wella a diogelu iechyd a llesiant pobl Cymru, yn benodol drwy:
§ ailddatgan y cyfyngiadau ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus caeedig a sylweddol gaeedig a gweithleoedd, a rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ymestyn y cyfyngiadau ar ysmygu i fangreoedd ychwanegol neu gerbydau;
§ gosod cyfyngiadau ar ysmygu ar dir ysgolion, tir ysbytai a meysydd chwarae cyhoeddus;
§ darparu ar gyfer creu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin;
§ rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ychwanegu at y troseddau sy’n cyfrannu at Orchymyn Mangre o dan Gyfyngiad yng Nghymru;
§ gwahardd rhoi tybaco a/neu gynhyrchion nicotin i unigolyn o dan 18 oed;
§ darparu ar gyfer creu cynllun trwyddedu mandadol i ymarferwyr a busnesau sy’n cynnal “triniaethau arbennig” sef aciwbigo, tyllu’r corff, electrolysis a thatŵio;
§ cyflwyno gwaharddiad ar dyllu rhannau personol o gorff unigolyn o dan 16 oed;
§ ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i'w gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gynnal asesiadau o'r effaith ar iechyd mewn amgylchiadau penodedig;
§ newid y trefniadau ar gyfer penderfynu ar geisiadau i fod ar restr fferyllol y byrddau iechyd, i system sy’n seiliedig ar anghenion fferyllol cymunedau lleol;
§ ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi strategaeth leol i gynllunio sut y byddant yn diwallu anghenion eu cymunedau ar gyfer defnyddio cyfleusterau toiledau a fydd ar gael i’r cyhoedd; a
§ galluogi 'awdurdod bwyd' o dan Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 i gadw derbyniadau cosb benodedig sy'n deillio o droseddau o dan y Ddeddf honno, er mwyn gorfodi'r cynllun sgorio hylendid bwyd.
2. unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi'r darpariaethau hyn ar waith ac a yw'r Bil yn eu hystyried;
3. a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o'r Bil;
4. goblygiadau ariannol y Bil (fel y nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol);
5. priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o'r Memorandwm Esboniadol).
Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad
Mae’r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth am y cylch gorchwyl a’r graddau y mae’r Bil yn adlewyrchu blaenoriaethau ar gyfer gwella ac amddiffyn iechyd y cyhoedd yng Nghymru.
Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn 16 Rhagfyr 2016.
Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i: SeneddIechyd@Cynulliad.Cymru.
Rhowch wybod i ni os ymateboch i ymgynghoriad blaenorol y Pwyllgor sy'n ein rhagflaenu ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) (2015) ac yn dymuno i'r Pwyllgor ystyried eich ymateb cynharach (neu fersiwn wedi'i diweddaru o'r ymateb hwnnw) fel rhan o'i waith craffu ar y Bil hwn.
Canllawiau
Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y cylch gorchwyl.
Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad.
Gweler y canllawiau i dystion sy'n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgorau.
Polisi dwyieithog
Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau/cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus.
Datgelu gwybodaeth
Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn http://www.assembly.wales/cy/help/privacy/Pages/help-inquiry-privacy.aspx. Gofynnwn ichi sicrhau eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Os hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Clerc y Pwyllgor
Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd, CF99 1NA.
E-bost:
SeneddIechyd@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565